Gwahoddiadau     

Y Goeden Chwedleuwr / The Storyteller Tree
 

Ein hoff ran, yn enwedig os ydyn ni'n cael paned o de a bynsen ...



Mae'r Goeden Chwedleuwr ar gael ar gyfer pob math o anturiaeth (gyda’r babell neu hebddi*). Os oes gennych ddiddordeb mewn clywed rhai straeon, ein cyflwyno i gynulleidfa ddiniwed, neu'n cynnwys ni mewn rhyw fath o antur lle y gallai straeon fod yn ddefnyddiol, cysylltwch â ni dros y ffôn neu trwy gyfrifiadur.

Gallwn ni ddod â'n hen ffefrynnau neu fynd i chwilio am straeon newydd os hoffech chi rywbeth â thema benodol ...

Bydd pob cynnig synhwyrol a disynnwyr yn cael eu hystyried yn frwd.

*Nid yw'r babell yn addas ar gyfer pob math o dywydd.