Gweithredoedd     

Y Goeden Chwedleuwr / The Storyteller Tree
 

Yn 2010, roedd prosiect Tywi Afon Yr Oesoedd Canolfan Tywi yn cynnwys cyfres o weithdai oedd wedi'u hanelu at gynnwys pobl leol yn niwylliant Dyffryn Tywi. Cafodd rhai o'r gweithdai hyn eu harwain gan Michael Harvey. Yr oedd rhai ohonon ni'n awyddus i barhau â'r gwaith da o gyfuno adrodd straeon â'n hyfforddiant a phrofiad yn y theatr (yn cynnwys adeiladu pyped enfawr gwisgadwy). Felly, fe edrychon ni am straeon yr oedden ni'n eu hoffi, straeon y byddai gwahanol gynulleidfaoedd yn eu hoffi a chwilota am gyfleoedd i roi cynnig arnynt o flaen unrhyw drueiniaid diniwed. Ac fe ddalion ni ati tan iddynt ddod i'w hoffi ... Treuliwyd llawer awr dymunol yng nghwmni'r brodyr Grimm a'r Mabinogi. Mae Rebecca wedi codi ei pheisiau ac mae ychydig o straeon Celtaidd wedi llithro i mewn. Yn ogystal â phinsiad o’r Norseg a’r Ffinneg ...
Y llynedd, gwnaethon ni gais llwyddiannus am ychydig o arian. Yn ogystal felly ag ennill sawl logo i addurno ein tudalennau gwe, mae gennym nawr lawer o bethau defnyddiol sydd o gymorth mawr i ni o ran y digwyddiadau yr ydyn ni’n ymgymryd â nhw. O ddenu sylw’r rheini sy’n taro heibio i ddiddanu cynulleidfaoedd caeth ar ochrau mynyddoedd, rwy’n credu ein bod yn barod nawr ar gyfer unrhyw her, waeth faint bynnag (neu beidio) o amser y mae trefnwyr y digwyddiad wedi’i roi i’n cyfraniad (bach) a waeth bynnag y bydd ffawd yn ei daflu aton ni.
Yr hyn sy’n bwysig yw dysgu’r gamp o sut i ddefnyddio’r pethau hyn yn dda ...

Bydd y stori nesaf yn dechrau mewn ...

3 munud

Cymerwch eich seddi!!!

A ydyn ni'n adrodd straeon go iawn? Ydyn, yn bendant, maent i gyd yn straeon go iawn! Er, rhaid i mi gyfaddef, nid yw'r holl bethau ynddynt wedi digwydd eto, neu os ydynt wedi digwydd maent wedi digwydd ar wahanol adegau i wahanol bobl. Mae'n anodd iawn i adrodd stori sy'n ffuglen lwyr, oherwydd mae darnau o wirionedd yn ymlusgo i mewn fel cathod yn chwilio am rywle cynnes i gwtsio.

Felly, rydyn ni’n adrodd straeon am asynnod a dreigiau, tlodion a thywysogesau, ysbrydion a choblynnod, ond nid ar yr un pryd. Ceir hud a lledrith mewn straeon traddodiadol o wahanol wledydd, yn ogystal â llawer sydd wedi tarddu o Gymru,
lle mae hinsawdd ardderchog ar gyfer tyfu straeon.
Mae rhai o'r chwedlau yn hen iawn, sy’n amlwg wrth edrych ar eu crychau a’u rhychau, ond serch hynny maen nhw wedi dal eu gafael ar eu grym a'u doethineb hynafol.

Ar gyfer pwy mae'r straeon? Mae'r straeon mwy tywyll a heriol yn fwy addas ar gyfer oedolion, tra bod straeon gyda llawer o gyffro sy’n symud yn gyflym yn boblogaidd gyda chynulleidfaoedd iau.

Mae pabell enfawr gyda ni i berfformio ynddi, sy'n llawn clustogau a rygiau hyfryd y gall y gwrandawyr ymlacio arnynt.



Beth mae'r Goeden Chwedlewr yn wneud?
Adrodd straeon ffraeth gyda chymeriadau lliwgar o bob cwr o'r byd, neu chwedlau tywyll, dwfn, a brawychus a fydd yn gwneud i chi neidio!
Straeon trist a straeon cynhwysfawr – y peth pwysicaf yw y ceir stori i bawb, wedi’u hadrodd mewn ffordd addas i'r gynulleidfa. Ond mae'n help bob tro i weld ambell ddimai goch, yn ogystal â sicrhau bod bar da gerllaw.